Lleisiau Pontypridd
Clywch gan bobl ledled Pontypridd am yr hyn y mae diwylliant, creadigrwydd a chymuned yn ei olygu iddyn nhw.
CROESO
Mae Pontypridd yn y ras i ddod yn Dref Ddiwylliant y DU yn 2028! Mae Ponty wedi cyrraedd y 15 olaf o blith 398 o drefi ledled y DU. Mae angen eich cymorth chi arnon ni er mwyn sicrhau'r wobr o £3 miliwn...
Rydyn ni eisiau clywed beth mae diwylliant yn ei olygu i chi! Beth bynnag rydych chi'n ei feddwl yw e.
Beth bynnag yr hoffech chi ei rannu, bydden ni wrth ein bodd yn clywed eich stori..
Cymerwch olwg isod ar ychydig o enghreifftiau gan rai o bobl Ponty ynghylch beth maen nhw'n ei ystyried yw diwylliant ym Mhontypridd, ac yna rhannwch eich stori chi.
Clywch gan bobl ledled Pontypridd am yr hyn y mae diwylliant, creadigrwydd a chymuned yn ei olygu iddyn nhw.
Mae Pontypridd wastad wedi bod yn lle ar gyfer dod at ein gilydd.
Diwylliant yw'r bobl, y straeon a'r lleoedd sy'n gwneud i Bonty deimlo fel cartref.
Mae creadigrwydd ym mhobman ym Mhonty os ydych chi'n gwybod ble i edrych.
Mae diwylliant yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Dywedwch wrthon ni beth mae diwylliant yn ei olygu i chi, beth sy'n gwneud diwylliant Pontypridd yn arbennig, a beth yr hoffech chi ei weld yn cael ei ddathlu yn 2028.
Does dim angen i'r iaith fod yn berffaith. Rydyn ni eisiau clywed, yn eich geiriau chi, beth mae diwylliant yn ei olygu i chi sy'n byw ym Mhontypridd.
Mae eich ffotograff yn barod. Llenwch y ffurflen a dewiswch Cyflwyno fy nghyfraniad i’w uwchlwytho a’i gyflwyno.
Mae eich fideo yn barod. Llenwch y ffurflen a dewiswch Cyflwyno fy nghyfraniad i’w uwchlwytho a’i gyflwyno.
Drwy gyflwyno cynnwys i'r prosiect yma, rydych chi'n cadarnhau:
Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen yma yn cael ei defnyddio at ddibenion prosiect Pontypridd28, Tref Diwylliant y DU 2028 yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu gwybodaeth bersonol, ewch i Mae hysbysiadau preifatrwydd y gwasanaeth yma..
Mae eich cyfraniad wedi'i anfon at garfan Pontypridd28 i'w adolygu.
Meddyliau, straeon, lluniau a fideos gan bobl ledled Pontypridd, yn rhannu beth mae diwylliant a'r dref yn ei olygu iddyn nhw.